1. Pan ddychwelodd yr Arglwydd gaethiwed Seion, yr oeddem fel rhai yn breuddwydio.
2. Yna y llanwyd ein genau â chwerthin, a'n tafod â chanu: yna y dywedasant ymysg y cenhedloedd, Yr Arglwydd a wnaeth bethau mawrion i'r rhai hyn.
3. Yr Arglwydd a wnaeth i ni bethau mawrion; am hynny yr ydym yn llawen.
4. Dychwel, Arglwydd, ein caethiwed ni, fel yr afonydd yn y deau.
5. Y rhai sydd yn hau mewn dagrau, a fedant mewn gorfoledd.