Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 125:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Y rhai a ymddiriedant yn yr Arglwydd, fyddant fel mynydd Seion, yr hwn ni syflir, ond a bery yn dragywydd.

2. Fel y mae Jerwsalem a'r mynyddoedd o'i hamgylch, felly y mae yr Arglwydd o amgylch ei bobl, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.

3. Canys ni orffwys gwialen annuwioldeb ar randir y rhai cyfiawn; rhag i'r rhai cyfiawn estyn eu dwylo at anwiredd.

4. O Arglwydd, gwna ddaioni i'r rhai daionus, ac i'r rhai uniawn yn eu calonnau.

5. Ond y rhai a ymdroant i'w trofeydd, yr Arglwydd a'u gyr gyda gweithredwyr anwiredd: a bydd tangnefedd ar Israel.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 125