1. Llawenychais pan ddywedent wrthyf, Awn i dŷ yr Arglwydd.
2. Ein traed a safant o fewn dy byrth di, O Jerwsalem.
3. Jerwsalem a adeiladwyd fel dinas wedi ei chydgysylltu ynddi ei hun.
4. Yno yr esgyn y llwythau, llwythau yr Arglwydd, yn dystiolaeth i Israel, i foliannu enw yr Arglwydd.
5. Canys yno y gosodwyd gorseddfeinciau barn, gorseddfeinciau tŷ Dafydd.
6. Dymunwch heddwch Jerwsalem: llwydded y rhai a'th hoffant.
7. Heddwch fyddo o fewn dy ragfur, a ffyniant yn dy balasau.
8. Er mwyn fy mrodyr a'm cyfeillion y dywedaf yn awr, Heddwch fyddo i ti.
9. Er mwyn tŷ yr Arglwydd ein Duw, y ceisiaf i ti ddaioni.
Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 122