Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 121:3-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

3. Ni ad efe i'th droed lithro: ac ni huna dy geidwad.

4. Wele, ni huna ac ni chwsg ceidwad Israel.

5. Yr Arglwydd yw dy geidwad: yr Arglwydd yw dy gysgod ar dy ddeheulaw.

6. Ni'th dery yr haul y dydd, na'r lleuad y nos.

7. Yr Arglwydd a'th geidw rhag pob drwg: efe a geidw dy enaid.

8. Yr Arglwydd a geidw dy fynediad a'th ddyfodiad, o'r pryd hwn hyd yn dragywydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 121