Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 12:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Achub, Arglwydd; canys darfu y trugarog: oherwydd pallodd y ffyddloniaid o blith meibion dynion.

2. Oferedd a ddywedant bob un wrth ei gymydog: â gwefus wenieithgar, ac â chalon ddauddyblyg, y llefarant.

3. Torred yr Arglwydd yr holl wefusau gweneithus,a'r tafod a person ddywedo fawrhydi:

4. Y rhai a ddywedant, Â'n tafod y gorfyddwn; ein gwefusau a sydd eiddom ni: pwy sydd arglwydd arnom ni?

5. Oherwydd anrhaith y rhai cystuddiedig, oherwydd uchenaid y tlodion, y cyfodaf yn awr, medd yr Arglwydd; rhoddaf mewn iachawdwriaeth yr hwn y magler iddo.

6. Geiriau yr Arglwydd ydynt eiriau purion; fel arian wedi ei goethi mewn ffwrn bridd, wedi ei buro seithwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 12