Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:97-101 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

97. Mor gu gennyf dy gyfraith di! hi yw fy myfyrdod beunydd.

98. A'th orchmynion yr ydwyt yn fy ngwneuthur yn ddoethach na'm gelynion: canys byth y maent gyda mi.

99. Deellais fwy na'm holl athrawon: oherwydd dy dystiolaethau yw fy myfyrdod.

100. Deellais yn well na'r henuriaid, am fy mod yn cadw dy orchmynion di.

101. Ateliais fy nhraed oddi wrth bob llwybr drwg, fel y cadwn dy air di.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119