50. Dyma fy nghysur yn fy nghystudd: canys dy air di a'm bywhaodd i.
51. Y beilchion a'm gwatwarasant yn ddirfawr: er hynny ni throais oddi wrth dy gyfraith di.
52. Cofiais, O Arglwydd, dy farnedigaethau erioed; ac ymgysurais.
53. Dychryn a ddaeth arnaf, oblegid yr annuwiolion, y rhai sydd yn gadu dy gyfraith di.
54. Dy ddeddfau oedd fy nghân yn nhÅ· fy mhererindod.
55. Cofiais dy enw, Arglwydd, y nos; a chedwais dy gyfraith.
56. Hyn oedd gennyf, am gadw ohonof dy orchmynion di.