Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 119:25-43 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

25. Glynodd fy enaid wrth y llwch: bywha fi yn ôl dy air.

26. Fy ffyrdd a fynegais, a gwrandewaist fi: dysg i mi dy ddeddfau.

27. Gwna i mi ddeall ffordd dy orchmynion; a mi a fyfyriaf yn dy ryfeddodau.

28. Diferodd fy enaid gan ofid: nertha fi yn ôl dy air.

29. Cymer oddi wrthyf ffordd y celwydd; ac yn raslon dod i mi dy gyfraith.

30. Dewisais ffordd gwirionedd: gosodais dy farnedigaethau o'm blaen.

31. Glynais wrth dy dystiolaethau: O Arglwydd, na'm gwaradwydda.

32. Ffordd dy orchmynion a redaf, pan ehangech fy nghalon.

33. Dysg i mi, O Arglwydd, ffordd dy ddeddfau, a chadwaf hi hyd y diwedd.

34. Gwna i mi ddeall, a chadwaf dy gyfraith; ie, cadwaf hi â'm holl galon.

35. Gwna i mi gerdded yn llwybr dy orchmynion: canys ynddo y mae fy ewyllys.

36. Gostwng fy nghalon at dy dystiolaethau, ac nid at gybydd‐dra.

37. Tro heibio fy llygaid, rhag edrych ar wagedd; a bywha fi yn dy ffyrdd.

38. Sicrha dy air i'th was, yr hwn sydd yn ymroddi i'th ofn di.

39. Tro heibio fy ngwaradwydd yr wyf yn ei ofni: canys dy farnedigaethau sydd dda.

40. Wele, awyddus ydwyf i'th orchmynion: gwna i mi fyw yn dy gyfiawnder.

41. Deued i mi dy drugaredd, Arglwydd, a'th iachawdwriaeth yn ôl dy air.

42. Yna yr atebaf i'm cablydd: oherwydd yn dy air y gobeithiais.

43. Na ddwg dithau air y gwirionedd o'm genau yn llwyr: oherwydd yn dy farnedigaethau di y gobeithiais.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 119