144. Cyfiawnder dy dystiolaethau a bery yn dragywydd: gwna i mi ddeall, a byw fyddaf.
145. Llefais â'm holl galon; clyw fi, O Arglwydd: dy ddeddfau a gadwaf.
146. Llefais arnat; achub fi, a chadwaf dy dystiolaethau.
147. Achubais flaen y cyfddydd, a gwaeddais; wrth dy air y disgwyliais.
148. Fy llygaid a achubasant flaen gwyliadwriaethau y nos, i fyfyrio yn dy air di.
149. Clyw fy llef yn ôl dy drugaredd: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
150. Y rhai a ddilynant ysgelerder a nesasant arnaf: ymbellhasant oddi wrth dy gyfraith di.
151. Tithau, Arglwydd, wyt agos; a'th holl orchmynion sydd wirionedd.
152. Er ys talm y gwyddwn am dy dystiolaethau, seilio ohonot hwynt yn dragywydd.
153. Gwêl fy nghystudd, a gwared fi: canys nid anghofiais dy gyfraith.
154. Dadlau fy nadl, a gwared fi: bywha fi yn ôl dy air.
155. Pell yw iachawdwriaeth oddi wrth y rhai annuwiol: oherwydd ni cheisiant dy ddeddfau di.
156. Dy drugareddau, Arglwydd, sydd aml: bywha fi yn ôl dy farnedigaethau.
157. Llawer sydd yn fy erlid, ac yn fy ngwrthwynebu; er hynny ni throais oddi wrth dy dystiolaethau.
158. Gwelais y troseddwyr, a gresynais; am na chadwent dy air di.
159. Gwêl fy mod yn hoffi dy orchmynion: Arglwydd, bywha fi yn ôl dy drugarowgrwydd.