109. Y mae fy enaid yn fy llaw yn wastadol: er hynny nid wyf yn anghofio dy gyfraith.
110. Y rhai annuwiol a osodasant fagl i mi: ond ni chyfeiliornais oddi wrth dy orchmynion.
111. Cymerais dy orchmynion yn etifeddiaeth dros byth: oherwydd llawenydd fy nghalon ydynt.
112. Gostyngais fy nghalon i wneuthur dy ddeddfau byth, hyd y diwedd.
113. Meddyliau ofer a gaseais: a'th gyfraith di a hoffais.
114. Fy lloches a'm tarian ydwyt: yn dy air y gobeithiaf.
115. Ciliwch oddi wrthyf, rai drygionus: canys cadwaf orchmynion fy Nuw.
116. Cynnal fi yn ôl dy air, fel y byddwyf byw: ac na ad i mi gywilyddio am fy ngobaith.
117. Cynnal fi, a dihangol fyddaf: ac ar dy ddeddfau yr edrychaf yn wastadol.