Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 118:6-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

6. Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?

7. Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.

9. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.

10. Yr holl genhedloedd a'm hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

11. Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

12. Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

13. Gan wthio y gwthiaist fi, fel y syrthiwn: ond yr Arglwydd a'm cynorthwyodd.

14. Yr Arglwydd yw fy nerth a'm cân; ac sydd iachawdwriaeth i mi.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 118