Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 118:1-12 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2. Dyweded Israel yr awr hon, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

3. Dyweded tŷ Aaron yn awr, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

4. Yn awr dyweded y rhai a ofnant yr Arglwydd, fod ei drugaredd ef yn parhau yn dragywydd.

5. Mewn ing y gelwais ar yr Arglwydd; yr Arglwydd a'm clybu, ac a'm gosododd mewn ehangder.

6. Yr Arglwydd sydd gyda mi, nid ofnaf: beth a wna dyn i mi?

7. Yr Arglwydd sydd gyda mi ymhlith fy nghynorthwywyr: am hynny y caf weled fy ewyllys ar fy nghaseion.

8. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn dyn.

9. Gwell yw gobeithio yn yr Arglwydd, nag ymddiried mewn tywysogion.

10. Yr holl genhedloedd a'm hamgylchynasant: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

11. Amgylchynasant fi; ie, amgylchynasant fi: ond yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

12. Amgylchynasant fi fel gwenyn; diffoddasant fel tân drain: oherwydd yn enw yr Arglwydd mi a'u torraf hwynt ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 118