Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 116:9-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.

10. Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.

11. Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.

12. Beth a dalaf i'r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?

13. Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.

14. Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.

15. Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef.

16. O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.

17. Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd.

18. Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 116