3. Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.
4. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
5. Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6. Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.
7. Dychwel, O fy enaid, i'th orffwysfa; canys yr Arglwydd fu dda wrthyt.
8. Oherwydd i ti waredu fy enaid oddi wrth angau, fy llygaid oddi wrth ddagrau, a'm traed rhag llithro.
9. Rhodiaf o flaen yr Arglwydd yn nhir y rhai byw.
10. Credais, am hynny y lleferais: cystuddiwyd fi yn ddirfawr.
11. Mi a ddywedais yn fy ffrwst, Pob dyn sydd gelwyddog.
12. Beth a dalaf i'r Arglwydd, am ei holl ddoniau i mi?
13. Ffiol iachawdwriaeth a gymeraf, ac ar enw yr Arglwydd y galwaf.
14. Fy addunedau a dalaf i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl ef.
15. Gwerthfawr yng ngolwg yr Arglwydd yw marwolaeth ei saint ef.
16. O Arglwydd, yn ddiau dy was di ydwyf fi; dy was di ydwyf fi, mab dy wasanaethwraig: datodaist fy rhwymau.
17. Aberthaf i ti aberth moliant; a galwaf ar enw yr Arglwydd.
18. Talaf fy addunedau i'r Arglwydd, yn awr yng ngŵydd ei holl bobl,
19. Yng nghynteddoedd tŷ yr Arglwydd, yn dy ganol di, O Jerwsalem. Molwch yr Arglwydd.