1. Da gennyf wrando o'r Arglwydd ar fy llef, a'm gweddïau.
2. Am ostwng ohono ei glust ataf, am hynny llefaf dros fy nyddiau arno ef.
3. Gofidion angau a'm cylchynasant, a gofidiau uffern a'm daliasant: ing a blinder a gefais.
4. Yna y gelwais ar enw yr Arglwydd; Atolwg, Arglwydd, gwared fy enaid.
5. Graslon yw yr Arglwydd, a chyfiawn; a thosturiol yw ein Duw ni.
6. Yr Arglwydd sydd yn cadw y rhai annichellgar: tlodais, ac efe a'm hachubodd.