Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 113:2-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd.

3. O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd.

4. Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a'i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.

5. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,

6. Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?

7. Efe sydd yn codi'r tlawd o'r llwch, ac yn dyrchafu'r anghenus o'r domen,

8. I'w osod gyda phendefigion, ie, gyda phendefigion ei bobl.

9. Yr hwn a wna i'r amhlantadwy gadw tŷ, a bod yn llawen fam plant. Canmolwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 113