Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 113:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Gweision yr Arglwydd, molwch, ie, molwch enw yr Arglwydd.

2. Bendigedig fyddo enw yr Arglwydd o hyn allan ac yn dragywydd.

3. O godiad haul hyd ei fachludiad, moliannus yw enw yr Arglwydd.

4. Uchel yw yr Arglwydd goruwch yr holl genhedloedd; a'i ogoniant sydd goruwch y nefoedd.

5. Pwy sydd fel yr Arglwydd ein Duw ni, yr hwn sydd yn preswylio yn uchel,

6. Yr hwn a ymddarostwng i edrych y pethau yn y nefoedd, ac yn y ddaear?

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 113