Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 11:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Yn yr Arglwydd yr wyf yn ymddiried: pa fodd y dywedwch wrth fy enaid, Eheda i'ch mynydd fel aderyn?

2. Canys wele, y drygionus a anelant fwa, paratoesant eu saethau ar y llinyn; i saethu yn ddirgel y rhai uniawn o galon.

3. Canys y seiliau a ddinistriwyd; pa beth a wna y cyfiawn?

4. Yr Arglwydd sydd yn nheml ei sancteiddrwydd; gorseddfa yr Arglwydd sydd yn y nefoedd: y mae ei lygaid ef yn gweled, ei amrantau yn profi meibion dynion.

5. Yr Arglwydd a brawf y cyfiawn: eithr cas gan ei enaid ef y drygionus, a'r hwn sydd hoff ganddo drawster.

6. Ar yr annuwiolion y glawia efe faglau, tân a brwmstan, a phoethwynt ystormus: dyma ran eu ffiol hwynt.

7. Canys yr Arglwydd cyfiawn a gâr gyfiawnder: ei wyneb a edrych ar yr uniawn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 11