5. Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
6. Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.
7. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
8. Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.
9. Moab yw fy nghrochan golchi; tros Edom y taflaf fy esgid: buddugoliaethaf ar Philistia.
10. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?
11. Onid tydi, O Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda'n lluoedd?
12. Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.
13. Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.