Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 108:10-13 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Pwy a'm dwg i'r ddinas gadarn? pwy a'm dwg hyd yn Edom?

11. Onid tydi, O Dduw, yr hwn a'n bwriaist ymaith? ac onid ei di allan, O Dduw, gyda'n lluoedd?

12. Dyro i ni gynhorthwy rhag cyfyngder: canys gau yw ymwared dyn.

13. Trwy Dduw y gwnawn wroldeb: canys efe a sathr ein gelynion.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 108