1. Parod yw fy nghalon, O Dduw: canaf a chanmolaf â'm gogoniant.
2. Deffro, y nabl a'r delyn: minnau a ddeffroaf yn fore.
3. Clodforaf di, Arglwydd, ymysg y bobloedd: canmolaf di ymysg y cenhedloedd.
4. Canys mawr yw dy drugaredd oddi ar y nefoedd: a'th wirionedd a gyrraedd hyd yr wybren.
5. Ymddyrcha, O Dduw, uwch y nefoedd: a bydded dy ogoniant ar yr holl ddaear;
6. Fel y gwareder dy rai annwyl: achub â'th ddeheulaw, a gwrando fi.
7. Duw a lefarodd yn ei sancteiddrwydd, Llawenychaf, rhannaf Sichem, a mesuraf ddyffryn Succoth.
8. Eiddof fi yw Gilead; eiddof fi Manasse; Effraim hefyd yw nerth fy mhen: Jwda yw fy neddfwr.