17. Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.
18. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.
19. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.
20. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.
21. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!
22. Aberthant hefyd aberth moliant; a mynegant ei weithredoedd ef mewn gorfoledd.
23. Y rhai a ddisgynnant mewn llongau i'r môr, gan wneuthur eu gorchwyl mewn dyfroedd mawrion.
24. Hwy a welant weithredoedd yr Arglwydd, a'i ryfeddodau yn y dyfnder.
25. Canys efe a orchymyn, a chyfyd tymhestlwynt, yr hwn a ddyrchafa ei donnau ef.
26. Hwy a esgynnant i'r nefoedd, disgynnant i'r dyfnder: tawdd eu henaid gan flinder.
27. Ymdroant, ac ymsymudant fel meddwyn: a'u holl ddoethineb a ballodd.
28. Yna y gwaeddant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u dwg allan o'u gorthrymderau.
29. Efe a wna yr ystorm yn dawel; a'i thonnau a ostegant.
30. Yna y llawenhânt am eu gostegu; ac efe a'u dwg i'r porthladd a ddymunent.