Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 107:14-21 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

14. Dug hwynt allan o dywyllwch a chysgod angau; a drylliodd eu rhwymau hwynt.

15. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

16. Canys efe a dorrodd y pyrth pres, ac a ddrylliodd y barrau heyrn.

17. Ynfydion, oblegid eu camweddau, ac oherwydd eu hanwireddau, a gystuddir.

18. Eu henaid a ffieiddiai bob bwyd; a daethant hyd byrth angau.

19. Yna y gwaeddasant ar yr Arglwydd yn eu cyfyngder; ac efe a'u hachubodd o'u gorthrymderau.

20. Anfonodd ei air, ac iachaodd hwynt, ac a'u gwaredodd o'u dinistr.

21. O na foliannent yr Arglwydd am ei ddaioni, a'i ryfeddodau i feibion dynion!

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 107