Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:7-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

7. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.

8. Eto efe a'u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.

9. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy'r dyfnder, megis trwy'r anialwch.

10. Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a'u gwaredodd o law y gelyn.

11. A'r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.

12. Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.

13. Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.

14. Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch.

15. Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i'w henaid.

16. Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd.

17. Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.

18. Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106