5. Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda'th etifeddiaeth.
6. Pechasom gyda'n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.
7. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.
8. Eto efe a'u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.
9. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy'r dyfnder, megis trwy'r anialwch.
10. Achubodd hwynt hefyd o law eu digasog; ac a'u gwaredodd o law y gelyn.
11. A'r dyfroedd a doesant eu gwrthwynebwyr; ni adawyd un ohonynt.
12. Yna y credasant ei eiriau ef; canasant ei fawl ef.
13. Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.
14. Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch.
15. Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i'w henaid.
16. Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd.
17. Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.
18. Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.
19. Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i'r ddelw dawdd.
20. Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.
21. Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;
22. Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.