Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:45-48 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

45. Ac efe a gofiodd ei gyfamod â hwynt, ac a edifarhaodd yn ôl lluosowgrwydd ei drugareddau:

46. Ac a wnaeth iddynt gael trugaredd gan y rhai oll a'u caethiwai.

47. Achub ni, O Arglwydd ein Duw, a chynnull ni o blith y cenhedloedd, i glodfori dy enw sanctaidd, ac i orfoleddu yn dy foliant.

48. Bendigedig fyddo Arglwydd Dduw Israel erioed ac yn dragywydd: a dyweded yr holl bobl, Amen. Molwch yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106