Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:19-34 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

19. Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i'r ddelw dawdd.

20. Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.

21. Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;

22. Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.

23. Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o'i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24. Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ni chredasant ei air ef:

25. Ond grwgnachasant yn eu pebyll; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.

26. Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i'w cwympo yn yr anialwch;

27. Ac i gwympo eu had ymysg y cenhedloedd; ac i'w gwasgaru yn y tiroedd.

28. Ymgysylltasant hefyd â Baal‐Peor, a bwytasant ebyrth y meirw.

29. Felly y digiasant ef â'u dychmygion eu hun; ac y trawodd pla yn eu mysg hwy.

30. Yna y safodd Phinees, ac a iawn farnodd: a'r pla a ataliwyd.

31. A chyfrifwyd hyn iddo yn gyfiawnder, o genhedlaeth i genhedlaeth byth.

32. Llidiasant ef hefyd wrth ddyfroedd y gynnen; fel y bu ddrwg i Moses o'u plegid hwynt:

33. Oherwydd cythruddo ohonynt ei ysbryd ef, fel y camddywedodd â'i wefusau.

34. Ni ddinistriasant y bobloedd, am y rhai y dywedasai yr Arglwydd wrthynt:

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106