Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:13-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yn y fan yr anghofiasant ei weithredoedd ef; ni ddisgwyliasant am ei gyngor ef.

14. Eithr blysiasant yn ddirfawr yn yr anialwch; a themtiasant Dduw yn y diffeithwch.

15. Ac efe a roddes eu dymuniad iddynt; eithr efe a anfonodd gulni i'w henaid.

16. Cenfigenasant hefyd wrth Moses yn y gwersyll, ac wrth Aaron sant yr Arglwydd.

17. Y ddaear a agorodd, ac a lyncodd Dathan, ac a orchuddiodd gynulleidfa Abiram.

18. Cyneuodd tân hefyd yn eu cynulleidfa hwynt: fflam a losgodd y rhai annuwiol.

19. Llo a wnaethant yn Horeb; ac ymgrymasant i'r ddelw dawdd.

20. Felly y troesant eu gogoniant i lun eidion yn pori glaswellt.

21. Anghofiasant Dduw eu Hachubwr, yr hwn a wnaethai bethau mawrion yn yr Aifft;

22. Pethau rhyfedd yn nhir Ham; pethau ofnadwy wrth y môr coch.

23. Am hynny y dywedodd y dinistriai efe hwynt, oni buasai i Moses ei etholedig sefyll ar yr adwy o'i flaen ef; i droi ymaith ei lidiowgrwydd ef, rhag eu dinistrio.

24. Diystyrasant hefyd y tir dymunol: ni chredasant ei air ef:

25. Ond grwgnachasant yn eu pebyll; ac ni wrandawsant ar lais yr Arglwydd.

26. Yna y dyrchafodd efe ei law yn eu herbyn hwynt, i'w cwympo yn yr anialwch;

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106