Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 106:1-9 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Molwch yr Arglwydd. Clodforwch yr Arglwydd; canys da yw: oherwydd ei drugaredd a bery yn dragywydd.

2. Pwy a draetha nerthoedd yr Arglwydd? ac a fynega ei holl fawl ef?

3. Gwyn eu byd a gadwant farn, a'r hwn a wnêl gyfiawnder bob amser.

4. Cofia fi, Arglwydd, yn ôl dy raslonrwydd i'th bobl; ymwêl â mi â'th iachawdwriaeth.

5. Fel y gwelwyf ddaioni dy etholedigion, fel y llawenychwyf yn llawenydd dy genedl di, fel y gorfoleddwyf gyda'th etifeddiaeth.

6. Pechasom gyda'n tadau; gwnaethom gamwedd, anwireddus fuom.

7. Ein tadau ni ddeallasant dy ryfeddodau yn yr Aifft, ni chofiasant luosowgrwydd dy drugareddau; eithr gwrthryfelgar fuont wrth y môr, sef y môr coch.

8. Eto efe a'u hachubodd hwynt er mwyn ei enw, i beri adnabod ei gadernid.

9. Ac a geryddodd y môr coch, fel y sychodd efe: a thywysodd hwynt trwy'r dyfnder, megis trwy'r anialwch.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 106