Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 101:1-8 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Canaf am drugaredd a barn: i ti, Arglwydd, y canaf.

2. Byddaf ddeallus mewn ffordd berffaith. Pa bryd y deui ataf? rhodiaf mewn perffeithrwydd fy nghalon o fewn fy nhŷ.

3. Ni osodaf ddim anwir o flaen fy llygaid: cas gennyf waith y rhai cildynnus; ni lŷn wrthyf fi.

4. Calon gyndyn a gilia oddi wrthyf: nid adnabyddaf ddyn drygionus.

5. Torraf ymaith yr hwn a enllibio ei gymydog yn ddirgel: yr uchel o olwg, a'r balch ei galon, ni allaf ei ddioddef.

6. Fy llygaid fydd ar ffyddloniaid y tir, fel y trigont gyda mi: yr hwn a rodio mewn ffordd berffaith, hwnnw a'm gwasanaetha i.

7. Ni thrig o fewn fy nhŷ yr un a wnelo dwyll: ni thrig yn fy ngolwg yr un a ddywedo gelwydd.

8. Yn fore y torraf ymaith holl annuwiolion y tir, i ddiwreiddio holl weithredwyr anwiredd o ddinas yr Arglwydd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 101