Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 100:1-5 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear.

2. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flaen ef â chân.

3. Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.

4. Ewch i mewn i'w byrth ef â diolch, ac i'w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.

5. Canys da yw yr Arglwydd: ei drugaredd sydd yn dragywydd; a'i wirionedd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 100