1. Cenwch yn llafar i'r Arglwydd, yr holl ddaear.
2. Gwasanaethwch yr Arglwydd mewn llawenydd: deuwch o'i flaen ef â chân.
3. Gwybyddwch mai yr Arglwydd sydd Dduw: efe a'n gwnaeth, ac nid ni ein hunain: ei bobl ef ydym, a defaid ei borfa.
4. Ewch i mewn i'w byrth ef â diolch, ac i'w gynteddau â mawl: diolchwch iddo, a bendithiwch ei enw.