Hen Destament

Testament Newydd

Y Salmau 10:2-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

2. Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.

3. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.

4. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.

5. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.

6. Dywedodd yn ei galon, Ni'm symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.

7. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.

8. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.

9. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i'w rwyd.

10. Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.

11. Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.

12. Cyfod, Arglwydd; O Dduw, dyrcha dy law: nac anghofia y cystuddiol.

13. Paham y dirmyga yr annuwiol Dduw? dywedodd yn ei galon, Nid ymofynni.

14. Gwelaist hyn; canys ti a ganfyddi anwiredd a cham, i roddi tâl â'th ddwylo dy hun: arnat ti y gedy y tlawd; ti yw cynorthwywr yr amddifad.

15. Tor fraich yr annuwiol a'r drygionus: cais ei ddrygioni ef hyd na chaffech ddim.

16. Yr Arglwydd sydd frenin byth ac yn dragywydd: difethwyd y cenhedloedd allan o'i dir ef.

17. Arglwydd, clywaist ddymuniad y tlodion: paratôi eu calon hwynt, gwrendy dy glust arnynt;

18. I farnu yr amddifad a'r gorthrymedig, fel na chwanego dyn daearol beri ofn mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Y Salmau 10