1. Paham, Arglwydd, y sefi o bell? yr ymguddi yn amser cyfyngder?
2. Yr annuwiol mewn balchder a erlid y tlawd: dalier hwynt yn y bwriadau a ddychmygasant.
3. Canys yr annuwiol a ymffrostia am ewyllys ei galon; ac a fendithia y cybydd, yr hwn y mae yr Arglwydd yn ei ffieiddio.
4. Yr annuwiol, gan uchder ei ffroen, ni chais Dduw: nid yw Duw yn ei holl feddyliau ef.
5. Ei ffyrdd sydd flin bob amser; uchel yw dy farnedigaethau allan o'i olwg ef: chwythu y mae yn erbyn ei holl elynion.
6. Dywedodd yn ei galon, Ni'm symudir: oherwydd ni byddaf mewn drygfyd hyd genhedlaeth a chenhedlaeth.
7. Ei enau sydd yn llawn melltith, a dichell, a thwyll: dan ei dafod y mae camwedd ac anwiredd.
8. Y mae efe yn eistedd yng nghynllwynfa y pentrefi: mewn cilfachau y lladd efe y gwirion: ei lygaid a dremiant yn ddirgel ar y tlawd.
9. Efe a gynllwyna mewn dirgelwch megis llew yn ei ffau: cynllwyn y mae i ddal y tlawd: efe a ddeil y tlawd, gan ei dynnu i'w rwyd.
10. Efe a ymgryma, ac a ymostwng, fel y cwympo tyrfa trueiniaid gan ei gedyrn ef.
11. Dywedodd yn ei galon, Anghofiodd Duw: cuddiodd ei wyneb; ni wêl byth.