Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 9:4-18 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

4. Canys i'r neb a fo yng nghymdeithas y rhai byw oll, y mae gobaith: canys gwell yw ci byw na llew marw.

5. Oherwydd y rhai byw a wyddant y byddant feirw: ond nid oes dim gwybodaeth gan y meirw, ac nid oes iddynt wobr mwyach; canys eu coffa hwynt a anghofiwyd.

6. Eu cariad hefyd, a'u cas, a'u cenfigen, a ddarfu yn awr; ac nid oes iddynt gyfran byth mwy o ddim oll a wneir dan yr haul.

7. Dos, bwyta dy fwyd yn llawen, ac yf dy win â chalon hyfryd: canys yn awr cymeradwy gan Dduw dy weithredoedd.

8. Bydded dy ddillad yn wynion bob amser; ac na fydded diffyg olew ar dy ben.

9. Dwg dy fyd yn llawen gyda'th wraig annwyl holl ddyddiau bywyd dy oferedd, y rhai a roddes efe i ti dan yr haul, holl ddyddiau dy oferedd: canys dyna dy ran di yn y bywyd yma, ac yn dy lafur a gymeri dan yr haul.

10. Beth bynnag a ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna â'th holl egni: canys nid oes na gwaith, na dychymyg, na gwybodaeth, na doethineb, yn y bedd, lle yr wyt ti yn myned.

11. Mi a droais, ac a welais dan haul, nad yw y rhedfa yn eiddo y cyflym, na'r rhyfel yn eiddo y cedyrn, na'r bwyd yn eiddo y doethion, na chyfoeth yn eiddo y pwyllog, na ffafr yn eiddo y cyfarwydd: ond amser a damwain a ddigwydd iddynt oll.

12. Canys ni ŵyr dyn chwaith ei amser: fel y pysgod a ddelir â'r rhwyd niweidiol, ac fel yr adar a ddelir yn y delm; felly y delir plant dynion yn amser drwg, pan syrthio arnynt yn ddisymwth.

13. Hefyd y doethineb hyn a welais i dan haul, ac sydd fawr gennyf fi:

14. Yr oedd dinas fechan, ac ynddi ychydig wŷr; a brenin mawr a ddaeth yn ei herbyn hi, ac a'i hamgylchynodd, ac a gododd glawdd uchel yn ei herbyn:

15. A chafwyd ynddi ŵr tlawd doeth, ac efe a waredodd y ddinas honno â'i ddoethineb: eto ni chofiodd neb y gŵr tlawd hwnnw.

16. Yna y dywedais, Gwell yw doethineb na nerth: er hynny dirmygir doethineb y tlawd, ac ni wrandewir ar ei eiriau ef.

17. Geiriau y doethion a wrandewir mewn distawrwydd, rhagor bloedd yr hwn sydd yn llywodraethu ymysg ffyliaid.

18. Gwell yw doethineb nag arfau rhyfel; ond un pechadur a ddinistria lawer o ddaioni.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 9