2. Na fydd ry brysur â'th enau, ac na frysied dy galon i draethu dim gerbron Duw: canys Duw sydd yn y nefoedd, a thithau sydd ar y ddaear; ac am hynny bydded dy eiriau yn anaml.
3. Canys breuddwyd a ddaw o drallod lawer: ac ymadrodd y ffôl o laweroedd o eiriau.
4. Pan addunedech adduned i Dduw, nac oeda ei thalu: canys nid oes ganddo flas ar rai ynfyd; y peth a addunedaist, tâl.
5. Gwell i ti fod heb addunedu, nag i ti addunedu a bod heb dalu.
6. Na ad i'th enau beri i'th gnawd bechu; ac na ddywed gerbron yr angel, Amryfusedd fu: paham y digiai Duw wrth dy leferydd, a difetha gwaith dy ddwylo?
7. Canys mewn llaweroedd o freuddwydion y mae gwagedd, ac mewn llawer o eiriau: ond ofna di Dduw.
8. Os gweli dreisio y tlawd, a thrawswyro barn a chyfiawnder mewn gwlad, na ryfedda o achos hyn: canys y mae yr hwn sydd uwch na'r uchaf yn gwylied; ac y mae un sydd uwch na hwynt.
9. Cynnyrch y ddaear hefyd sydd i bob peth: wrth dir llafur y mae y brenin yn byw.
10. Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na'r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.
11. Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i'w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i'w perchennog, ond eu gweled â'u llygaid?
12. Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.
13. Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i'w perchennog.
14. Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.
15. Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o'i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.