Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 5:10-19 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

10. Y neb a garo arian, ni ddigonir ag arian; na'r neb a hoffo amldra, â chynnyrch. Hyn hefyd sydd wagedd.

11. Lle y byddo llawer o dda, y bydd llawer i'w ddifa: pa fudd gan hynny sydd i'w perchennog, ond eu gweled â'u llygaid?

12. Melys yw hun y gweithiwr, pa un bynnag ai ychydig ai llawer a fwytao: ond llawnder y cyfoethog ni ad iddo gysgu.

13. Y mae trueni blin a welais dan yr haul, cyfoeth wedi eu cadw yn niwed i'w perchennog.

14. Ond derfydd am y cyfoeth hynny trwy drallod blin; ac efe a ennill fab, ac nid oes dim yn ei law ef.

15. Megis y daeth allan o groth ei fam yn noeth, y dychwel i fyned modd y daeth, ac ni ddwg ddim o'i lafur, yr hyn a ddygo ymaith yn ei law.

16. A hyn hefyd sydd ofid blin; yn hollol y modd y daeth, felly yr â efe ymaith: a pha fudd sydd iddo ef a lafuriodd am y gwynt?

17. Ei holl ddyddiau y bwyty efe mewn tywyllwch, mewn dicter mawr, gofid, a llid.

18. Wele y peth a welais i: da yw a theg i ddyn fwyta ac yfed, a chymryd byd da o'i holl lafur a lafuria dan yr haul, holl ddyddiau ei fywyd, y rhai a roddes Duw iddo: canys hynny yw ei ran ef.

19. Ie, i bwy bynnag y rhoddes Duw gyfoeth a golud; ac y rhoddes iddo ryddid i fwyta ohonynt, ac i gymryd ei ran, ac i lawenychu yn ei lafur; rhodd Duw yw hyn.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 5