11. Hefyd os dau a gydorweddant, hwy a ymgynhesant; ond yr unig, pa fodd y cynhesa efe?
12. Ac os cryfach fydd un nag ef, dau a'i gwrthwynebant yntau; a rhaff deircainc ni thorrir ar frys.
13. Gwell yw bachgen tlawd a doeth, na brenin hen ac ynfyd, yr hwn ni fedr gymryd rhybudd mwyach:
14. Canys y naill sydd yn dyfod allan o'r carchardy i deyrnasu, a'r llall wedi ei eni yn ei frenhiniaeth, yn myned yn dlawd.
15. Mi a welais y rhai byw oll y rhai sydd yn rhodio dan yr haul, gyda'r ail fab yr hwn a saif yn ei le ef.
16. Nid oes diben ar yr holl bobl, sef ar y rhai oll a fu o'u blaen hwynt; a'r rhai a ddêl ar ôl, ni lawenychant ynddo: gwagedd yn ddiau a blinder ysbryd yw hyn hefyd.