Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 4:1-7 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Felly mi a ddychwelais, ac a edrychais ar yr holl orthrymderau sydd dan yr haul: ac wele ddagrau y rhai gorthrymedig heb neb i'w cysuro; ac ar law eu treiswyr yr oedd gallu, a hwythau heb neb i'w cysuro.

2. A mi a ganmolais y meirw y rhai sydd yn barod wedi marw, yn fwy na'r byw y rhai sydd yn fyw eto.

3. Gwell na'r ddau yw y neb ni bu erioed, yr hwn ni welodd y gwaith blin sydd dan haul.

4. A mi a welais fod pob llafur, a phob uniondeb gwaith dyn, yn peri iddo genfigen gan ei gymydog. Hyn hefyd sydd wagedd a gorthrymder ysbryd.

5. Y ffôl a wasg ei ddwylo ynghyd, ac a fwyty ei gnawd ei hun.

6. Gwell yw llonaid llaw trwy lonyddwch, na llonaid dwy law trwy flinder a gorthrymder ysbryd.

7. Yna mi a droais, ac a welais wagedd dan yr haul.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 4