Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:18-26 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

18. Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i'r neb a fydd ar fy ôl i.

19. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd.

20. Am hynny mi a droais i beri i'm calon anobeithio o'r holl lafur a gymerais dan yr haul.

21. Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.

22. Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?

23. Canys ei holl ddyddiau sydd orthrymder, a'i lafur yn ofid: ie, ni chymer ei galon esmwythdra y nos. Hyn hefyd sydd wagedd.

24. Nid oes daioni mwy i ddyn, nag iddo fwyta ac yfed, a pheri i'w enaid gael daioni o'i lafur. Hyn hefyd a welais, mai o law Duw yr oedd hyn.

25. Canys pwy a ddichon fwyta, a phwy a'i mwynhâi, o'm blaen i?

26. Canys i'r dyn a fyddo da yn ei olwg ef, y rhydd Duw ddoethineb, a gwybodaeth, a llawenydd; ond i'r pechadur y rhydd efe boen i gasglu ac i dyrru, i'w roddi i'r neb a fyddo da gerbron Duw. Hynny hefyd sydd wagedd, a gorthrymder ysbryd.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2