Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:13-22 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

13. Yna mi a welais fod doethineb yn rhagori ar ffolineb, fel y mae goleuni yn rhagori ar dywyllwch.

14. Y doeth sydd â'i lygaid yn ei ben; ond y ffôl a rodia yn y tywyllwch: ac eto mi a welais yr un ddamwain yn digwydd iddynt oll.

15. Yna y dywedais yn fy nghalon, Fel y digwydd i'r ffôl, y digwydd i minnau; pa beth gan hynny a dâl i mi fod yn ddoeth mwyach? Yna y dywedais yn fy nghalon, fod hyn hefyd yn wagedd.

16. Canys ni bydd coffa am y doeth mwy nag am yr annoeth yn dragywydd; y pethau sydd yr awr hon, yn y dyddiau a ddaw a ollyngir oll dros gof: a pha fodd y mae y doeth yn marw? fel yr annoeth.

17. Am hynny cas gennyf einioes, canys blin gennyf y gorchwyl a wneir dan haul; canys gwagedd a gorthrymder ysbryd yw y cwbl.

18. Ie, cas gennyf fy holl lafur yr ydwyf fi yn ei gymryd dan haul; am fod yn rhaid i mi ei adael i'r neb a fydd ar fy ôl i.

19. A phwy a ŵyr ai doeth ai annoeth fydd efe? eto efe a fydd feistr ar fy holl lafur yr hwn a gymerais, ac yn yr hwn y bûm ddoeth dan haul. Dyma wagedd hefyd.

20. Am hynny mi a droais i beri i'm calon anobeithio o'r holl lafur a gymerais dan yr haul.

21. Canys y mae dyn yr hwn y mae ei lafur yn bwyllog, yn synhwyrol, ac yn uniawn: ac y mae yn ei adael yn rhan i'r neb ni lafuriodd wrtho. Hyn hefyd sydd wagedd, a gorthrymder mawr.

22. Canys beth sydd i ddyn o'i holl lafur a gorthrymder ei galon, yr hwn a gymerodd efe dan haul?

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2