Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 2:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Mi a ddywedais yn fy nghalon, Iddo yn awr, mi a'th brofaf â llawenydd; am hynny cymer dy fyd yn ddifyr: ac wele, hyn hefyd sydd wagedd.

2. Mi a ddywedais am chwerthin, Ynfyd yw: ac am lawenydd, Pa beth a wna?

3. Mi a geisiais yn fy nghalon ymroddi i win, (eto yn arwain fy nghalon mewn doethineb,) ac i gofleidio ffolineb, hyd oni welwn beth oedd y da hwnnw i feibion dynion, yr hyn a wnânt hwy dan y nefoedd holl ddyddiau eu bywyd.

4. Mi a wneuthum i mi waith mawr; mi a adeiledais i mi dai; mi a blennais i mi winllannoedd:

5. Mi a wneuthum erddi a pherllannau, ac a blennais ynddynt brennau o bob ffrwyth:

6. Mi a wneuthum lynnau dwfr, i ddyfrhau â hwynt y llwyni sydd yn dwyn coed:

7. Mi a ddarperais weision a morynion; hefyd yr oedd i mi gaethweision tŷ; ie, yr oeddwn i yn berchen llawer o wartheg a defaid, tu hwnt i bawb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem:

8. Mi a bentyrrais i mi hefyd arian ac aur, a thrysor pennaf brenhinoedd a thaleithiau: mi a ddarperais i mi gantorion a chantoresau, a phob rhyw offer cerdd, difyrrwch meibion dynion.

9. A mi a euthum yn fawr, ac a gynyddais yn fwy na neb a fuasai o'm blaen i yn Jerwsalem: a'm doethineb oedd yn sefyll gyda mi.

10. A pha beth bynnag a ddeisyfai fy llygaid, ni omeddwn hwynt: ni ataliwn fy nghalon oddi wrth ddim hyfryd; canys fy nghalon a lawenychai yn fy holl lafur; a hyn oedd fy rhan i o'm holl lafur.

11. Yna mi a edrychais ar fy holl weithredoedd a wnaethai fy nwylo, ac ar y llafur a lafuriais yn ei wneuthur: ac wele, hyn oll oedd wagedd a gorthrymder ysbryd, ac nid oedd dim budd dan yr haul.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 2