Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 12:8-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

8. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.

9. A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i'r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.

10. Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.

11. Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.

12. Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i'r cnawd.

13. Swm y cwbl a glybuwyd yw, Ofna Dduw, a chadw ei orchmynion: canys hyn yw holl ddyled dyn.

14. Canys Duw a ddwg bob gweithred i farn, a phob peth dirgel, pa un bynnag fyddo ai da ai drwg.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 12