6. Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.
7. Yna y dychwel y pridd i'r ddaear fel y bu, ac y dychwel yr ysbryd at Dduw, yr hwn a'i rhoes ef.
8. Gwagedd o wagedd, medd y Pregethwr; gwagedd yw y cwbl.
9. A hefyd, am fod y Pregethwr yn ddoeth, efe a ddysgodd eto wybodaeth i'r bobl; ie, efe a ystyriodd, ac a chwiliodd allan, ac a drefnodd ddiarhebion lawer.
10. Chwiliodd y Pregethwr am eiriau cymeradwy; a'r hyn oedd ysgrifenedig oedd uniawn, sef geiriau gwirionedd.
11. Geiriau y doethion sydd megis symbylau, ac fel hoelion wedi eu sicrhau gan feistriaid y gynulleidfa, y rhai a roddir oddi wrth un bugail.
12. Ymhellach hefyd, fy mab, cymer rybudd wrth y rhai hyn; nid oes diben ar wneuthur llyfrau lawer, a darllen llawer sydd flinder i'r cnawd.