Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 12:1-6 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Cofia yn awr dy Greawdwr yn nyddiau dy ieuenctid, cyn dyfod y dyddiau blin, a nesáu o'r blynyddoedd yn y rhai y dywedi, Nid oes i mi ddim diddanwch ynddynt:

2. Cyn tywyllu yr haul, a'r goleuni, a'r lleuad, a'r sêr, a dychwelyd y cymylau ar ôl y glaw:

3. Yr amser y cryna ceidwaid y tŷ, ac y cryma y gwŷr cryfion, ac y metha y rhai sydd yn malu, am eu bod yn ychydig, ac y tywylla y rhai sydd yn edrych trwy ffenestri;

4. A chau y pyrth yn yr heolydd, pan fo isel sŵn y malu, a'i gyfodi wrth lais yr aderyn, a gostwng i lawr holl ferched cerdd:

5. Ie, yr amser yr ofnant yr hyn sydd uchel, ac yr arswydant yn y ffordd, ac y blodeua y pren almon, ac y bydd y ceiliog rhedyn yn faich, ac y palla chwant: pan elo dyn i dŷ ei hir gartref, a'r galarwyr yn myned o bob tu yn yr heol:

6. Cyn torri y llinyn arian, a chyn torri y cawg aur, a chyn torri y piser gerllaw y ffynnon, neu dorri yr olwyn wrth y pydew.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 12