Hen Destament

Testament Newydd

Y Pregethwr 10:15-20 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

15. Llafur y ffyliaid a flina bawb ohonynt: canys ni fedr efe fyned i'r ddinas.

16. Gwae di y wlad sydd â bachgen yn frenin i ti, a'th dywysogion yn bwyta yn fore.

17. Gwyn dy fyd di y wlad sydd â'th frenin yn fab i bendefigion, a'th dywysogion yn bwyta eu bwyd yn eu hamser, er cryfder, ac nid er meddwdod.

18. Trwy ddiogi lawer yr adfeilia yr adeilad; ac wrth laesu y dwylo y gollwng y tŷ ddefni.

19. Arlwyant wledd i chwerthin, a gwin a lawenycha y rhai byw; ond arian sydd yn ateb i bob peth.

20. Na felltithia y brenin yn dy feddwl; ac yn ystafell dy wely na felltithia y cyfoethog: canys ehediad yr awyr a gyhoedda y llais, a pherchen adain a fynega y peth.

Darllenwch bennod gyflawn Y Pregethwr 10