Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3:9-15 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

9. Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.

10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm.

11. Y dydd hwnnw ni'th waradwyddir am dy holl weithredoedd, yn y rhai y pechaist i'm herbyn: canys yna y symudaf o'th blith y neb sydd yn hyfryd ganddynt dy falchder, fel nad ymddyrchafech mwyach yn fy mynydd sanctaidd.

12. Gadawaf ynot hefyd bobl druain dlodion, ac yn enw yr Arglwydd y gobeithiant hwy.

13. Gweddill Israel ni wna anwiredd, ac ni ddywedant gelwydd; ac ni cheir yn eu geneuau dafod twyllodrus: canys hwy a borant ac a orweddant, ac ni bydd a'u tarfo.

14. Merch Seion, cân; Israel, crechwena; merch Jerwsalem, ymlawenycha a gorfoledda â'th holl galon.

15. Tynnodd yr Arglwydd ymaith dy farnau, bwriodd allan dy elynion: yr Arglwydd brenin Israel sydd yn dy ganol, nid ofni ddrwg mwyach.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 3