Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 3:1-10 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gwae y fudr a'r halogedig, y ddinas orthrymus!

2. Ni wrandawodd ar y llef, ni dderbyniodd gerydd; nid ymddiriedodd yn yr Arglwydd, ni nesaodd at ei Duw.

3. Ei thywysogion o'i mewn sydd yn llewod rhuadwy; ei barnwyr yn fleiddiau yr hwyr, ni adawant asgwrn erbyn y bore.

4. Ei phroffwydi sydd ysgafn, yn wŷr anffyddlon: ei hoffeiriaid a halogasant y cysegr, treisiasant y gyfraith.

5. Yr Arglwydd cyfiawn sydd yn ei chanol; ni wna efe anwiredd: yn fore y dwg ei farn i oleuni, ni phalla; ond yr anwir ni fedr gywilyddio.

6. Torrais ymaith y cenhedloedd: eu tyrau sydd anghyfannedd; diffeithiais eu heolydd, fel nad elo neb heibio; eu dinasoedd a ddifwynwyd, heb ŵr, a heb drigiannol.

7. Dywedais, Yn ddiau ti a'm hofni; derbynni gerydd: felly ei thrigfa ni thorrid ymaith, pa fodd bynnag yr ymwelais â hi: eto boregodasant, a llygrasant eu holl weithredoedd.

8. Am hynny disgwyliwch arnaf fi, medd yr Arglwydd, hyd y dydd y cyfodwyf i'r ysglyfaeth: canys fy marn sydd ar gynnull y cenhedloedd, ar gasglu y teyrnasoedd, i dywallt arnynt fy llid, holl angerdd fy nigofaint: canys â thân fy eiddigedd yr ysir yr holl ddaear.

9. Oherwydd yna yr adferaf i'r bobl wefus bur, fel y galwo pob un ohonynt ar enw yr Arglwydd, i'w wasanaethu ef ag un ysgwydd.

10. O'r tu hwnt i afonydd Ethiopia y dwg fy ngweddïwyr, sef merch fy ngwasgaredig, fy offrwm.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 3