Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 2:1-14 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Ymgesglwch, ie, deuwch ynghyd, genedl anhawddgar;

2. Cyn i'r ddeddf esgor, cyn i'r dydd fyned heibio fel peiswyn, cyn dyfod arnoch lid digofaint yr Arglwydd, cyn dyfod arnoch ddydd soriant yr Arglwydd.

3. Ceisiwch yr Arglwydd, holl rai llariaidd y ddaear, y rhai a wnaethant ei farn ef; ceisiwch gyfiawnder, ceisiwch larieidd-dra: fe allai y cuddir chwi yn nydd digofaint yr Arglwydd.

4. Canys bydd Gasa yn wrthodedig, ac Ascalon yn anghyfannedd: gyrrant allan Asdod hanner dydd, a diwreiddir Ecron.

5. Gwae breswylwyr glan y môr, cenedl y Cerethiaid! y mae gair yr Arglwydd i'ch erbyn: O Ganaan, gwlad y Philistiaid, mi a'th ddifethaf, fel na byddo cyfanheddwr.

6. A bydd glan y môr yn drigfâu ac yn fythod i fugeiliaid, ac yn gorlannau defaid.

7. A bydd y fro yn rhan i weddill tŷ Jwda; porant arnynt: yn nheiau Ascalon y gorweddant yn yr hwyr: canys yr Arglwydd eu Duw a ymwêl â hwynt, ac a ddychwel eu caethiwed.

8. Clywais waradwyddiad Moab, a chabledd meibion Ammon, â'r hwn y gwaradwyddasant fy mhobl, ac yr ymfawrygasant yn erbyn eu terfynau hwynt.

9. Am hynny fel mai byw fi, medd Arglwydd y lluoedd, Duw Israel, Fel Sodom y bydd Moab, a meibion Ammon fel Gomorra: danhadldir, a phyllau halen, ac anghyfanheddle tragwyddol: gweddill fy mhobl a'u difroda, a gweddill fy nghenedl a'u meddianna hwynt.

10. Hyn a ddaw iddynt am eu balchder, am iddynt waradwyddo ac ymfawrygu yn erbyn pobl Arglwydd y lluoedd.

11. Ofnadwy a fydd yr Arglwydd iddynt: canys efe a newyna holl dduwiau y ddaear; ac addolant ef bob un o'i fan, sef holl ynysoedd y cenhedloedd.

12. Chwithau hefyd, yr Ethiopiaid, a leddir â'm cleddyf.

13. Ac efe a estyn ei law yn erbyn y gogledd, ac a ddifetha Asyria, ac a wna Ninefe yn anghyfannedd, ac yn sych fel diffeithwch.

14. A diadellau a orweddant yn ei chanol hi, holl anifeiliaid y cenhedloedd: y pelican a'r dylluan hefyd a letyant ar gap y drws; eu llais a gân yn y ffenestri; anghyfanhedd-dra a fydd yn y gorsingau: canys efe a ddinoetha y cedrwaith.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 2