Hen Destament

Testament Newydd

Seffaneia 1:1-11 Beibl William Morgan 1588, 1620 (BWM)

1. Gair yr Arglwydd yr hwn a ddaeth at Seffaneia mab Cusi, fab Gedaleia, fab Amareia, fab Heseceia, yn amser Joseia mab Amon brenin Jwda.

2. Gan ddistrywio y distrywiaf bob dim oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd.

3. Distrywiaf ddyn ac anifail; distrywiaf adar yr awyr, a physgod y môr; a'r tramgwyddiadau ynghyd â'r annuwiolion; a thorraf ymaith ddyn oddi ar wyneb y ddaear, medd yr Arglwydd.

4. Estynnaf hefyd fy llaw ar Jwda, ac ar holl breswylwyr Jerwsalem; a thorraf ymaith o'r lle hwn weddill Baal, ac enw y Chemariaid â'r offeiriaid;

5. A'r neb a ymgrymant ar bennau y tai i lu y nefoedd; a'r addolwyr y rhai a dyngant i'r Arglwydd, a hefyd a dyngant i Malcham;

6. A'r rhai a giliant oddi ar ôl yr Arglwydd; a'r rhai ni cheisiasant yr Arglwydd, ac nid ymofynasant amdano.

7. Distawa gerbron yr Arglwydd Dduw; canys agos yw dydd yr Arglwydd: oherwydd arlwyodd yr Arglwydd aberth, gwahoddodd ei wahoddedigion.

8. A bydd, ar ddydd aberth yr Arglwydd, i mi ymweled â'r tywysogion, ac â phlant y brenin, ac â phawb a wisgant wisgoedd dieithr.

9. Ymwelaf hefyd â phawb a neidiant ar y rhiniog y dydd hwnnw, y sawl a lanwant dai eu meistr â thrais ac â thwyll.

10. A'r dydd hwnnw, medd yr Arglwydd, y bydd llais gwaedd o borth y pysgod, ac udfa o'r ail, a drylliad mawr o'r bryniau.

11. Udwch, breswylwyr Machtes: canys torrwyd ymaith yr holl bobl o farchnadyddion; a holl gludwyr arian a dorrwyd ymaith.

Darllenwch bennod gyflawn Seffaneia 1